Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff.
Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pobl Cymru i weithredu a gofalu am ein hamgylchedd. Nid yw’n ymwneud â glanhau yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Dyma eich siop un stop ar gyfer ymgyrchwyr #CaruCymru, lle gallwch addasu, lawrlwytho ac argraffu eich deunyddiau.
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn lawrlwytho neu’n defnyddio’r deunyddiau, cysylltwch â’r tîm. Cysylltwch â comms@keepwalestidy.cymru
Cyllidwyd Caru Cymru drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mynd nôl i hyb Caru Cymru
Gweld Telerau ac Amodau